Richey, Ble Wyt Ti?

Back to the Articles: (1995) page

Dirgelwch seren y Manic Street Preachers

Ar Chwefror 1, fe gerddodd Richey Edwards allan o westy yn Llundain gyda £2,000 yn ei boced. Does neb wedi ei weld ers hynny. Fel aelod o'r grŵp roc Cymreig, The Manic Street Preachers, mae'n eilun i filoedd - yn arbennig darllenwyr y 'New Musical Express'. Ond mae ganddo hefyd hanes o ddiodde' salwch meddwl ac iselder. Ers ei ddiflaniad, mae colofn lythyrau'r NME wedi bod yn llawn o gyffesion ffans sy'n torri'u calonnau ac yn gofyn: Richey, ble wyt ti? ... Stori: Robin Gwyn

Mae stori Richey Edwards yn stori ar gyfer y 90au. Delwedd yw popeth.

Ar yr wyneb, roedd y gitarydd a'r cyfansoddwr roc 27 oed o'r Coed Duon yng Ngwent yn mwynhau bywyd seren enwog. Roedd ei grŵp, Manic Street Preachers, yn un o'r rhai mwya' llwyddiannus i ddod o Gymru erioed.

Yn oes MTV, roedden nhw'n deall yn iawn sut i chwarae gêm y wasg a'r cyfryngau. Er mwyn sicrhau ocsigen cyhoeddusrwydd, roedden nhw'n arbenigo ar ddefnyddio sloganau bachog i bregethu dadrith a phroffwydo gwae.

Yn breifat, roedd Richey Edwards yn diodde' o iselder, anorecsia, methu cysgu, blinder llethol, a hyd yn oed tuedd i niweidio'i hun. Mae'n ymddangos fod y ddelwedd wedi datblygu'n realiti.

Ond dyw ei artaith bersonol dros y ddwy flynedd ddiwetha' ddim yn ddigon i egluro be' ddigwyddodd ar Chwefror 1 eleni. Ar drothwy taith gynta'r Manics i America, fe ddiflannodd Richey Edwards oddi ar wyneb y ddaear.

Cyn iddo gerdded o westy'r Embassy yn Llundain am saith o'r gloch y bore, roedd wedi tynnu £200 y dydd o'i gyfrif banc dros gyfnod o bythefnos. Yn ôl Heddlu De Cymru, mae'n debyg ei fod wedyn wedi gyrru ei gar Vauxhall Cavalier i'w fflat ym Mae Caerdydd. Yno, fe adawodd ei basport, ei gardiau credyd a chyflenwad o'r cyffur Prozac - meddyginiaeth yr oedd yn ei gymryd i drin ei iselder.

Ar ddydd San Ffolant, fe adawodd y Vauxhall, wedi ei gloi, ym maes parcio Gwasanaethau Severn View ger pentre' Aust ar ochr Lloegr o Bomt Hafran. Mae papur newydd The Sunday Times wedi tynnu sylw at a ffaith bod hwn yn "local suicide spot". Fe ddaeth yr heddlu o hyd i'r car ar Chwefror 17 ond dim arwydd o beth oedd cyflwr meddwl Richey Edwards. Yn ôl llefarydd, does dim datblygiad wedi bod ers hynny.

Mae ei rieni, sy'n cadw siop trin gwallt yn y Coed Duon, yn "pryderu" ond yn ffyddiog ei fod yn fyw. Mewn cyfweliad arbennig â Golwg yr wythnos ddiwetha', fe fynnodd y tad bod y rhesymau dros ddiflaniad llwyr i'r teulu hefyd. Er yn Gymro Cymraeg, roedd yn well gan Graham Edwards siarad yn Saesneg.

"Ryden ni wedi cysylltu â phawb ryden ni a Richey yn eu 'nabod, ar lefel bersonol ac yn broffesiynol," meddai. "Ryden ni wedi meddwl am bob posibrilrwydd, wedi cysylltu â'r heddlu ac wedi gwneud apêl ar y BBC. Ond mae'r trêl yn hollol oer, fel petai... Ar y dechrau roedd gan y cyfryngau ddiddordeb ond dyw'r papurau mawr ddim yn talu sylw nawr..."

Er ei fod yn derbyn dewis gyrfa ei fab, mae Graham Edwards yn cyfadde' nad yw'n deall y freuddwyd roc a rôl a bod yna fwlch anorod rhwng y cenedlaethau. Dyw e erioed wedi gweld y grŵp yn chwarae.

"Mae yna bwysau mawr ar y bechgyn yma sy'n rhan o'r byd roc a rôl y dyddiau hyn. Mae'n broffesiwn caled iawn i fod ynddo ac rwy'n meddwl bod rhywfaint ohono'n cario drosodd i'w bywydau preifat nhw. Ac, ar yr adeg yma, mae'n amlwg bod popeth wedi mynd yn ornod iddo...

"Mae'n wir ei fod e wedi cael tipyn o frêcdown y llynedd a'i fod e wedi treulio ychydig o amser mewn clinic preifat yn Llundain. Efallai bod yr hyn sydd wedi digwydd nawr yn ailadrodd hynny ond ei fod e'n cymryd ffurf wahanol... Wnaeth e ddim dweud dim byd wrthon ni - doedd ganddon ni ddim syniad ei fod e'n mynd i wneud rhywbeth fel hyn.

"Fel gyda'r mwyafrif o rieni, rwy'n meddwl ein bod ni ar lefel wahanol i'r plant mewn gwirionedd... Felly dyw ei fiwsig ddim yn rhywbeth yr yden ni'n gallu ei fwynhau â'n gilydd. Ond ryden ni'n dod ymlaen yn iawn fel teulu - teleu dosbarth canol hapus cyffredin - ychydig yn boring efallai."

Yr hyn sydd wedi rhoi halen ar y briw i'r teulu, meddai, yw bod rhai adroddiadau wedi awgrymu bod iselder Richey Edwards yn arwydd o wrthdaro rhwng gwerthoedd ei gefndir yn y Cymoedd a themtasiynau amlwg ei fywyd newydd - ac y dylai rhywun fod wedi ymyrryd.

"Mae pobol yn sgrifennu lot o rybish ac os nad ydyn nhw'n gwybod rhywbeth, maen nhw'n ei 'neud e' lan - ond petaen ni'n gwybod ei fod o angen help, fe fydden ni wedi ei gynnig e... Dydech chi ddim just yn anwybyddu problemau...

"Mae'n ymddangos i ni fod lot o kids yn gwneud y math yma o beth o'r clinic, roedden ni'n meddwl, wrth gwrs, ei fod e'n well, yn normal unwaith eto... roedden ni'n meddwl ei fod e'n dygymod."

* * * * * * * * * *

Yn ôl ymchwil gan Golwg, does dim byd trawiadol o amlwg yng nghefndir Richey Edwards i egluro'i ddiflaniad.

Ar ôl gadael Ysgol Gyfun Oakdale, fe aeth Goleg Risga a chael tair Lefel 'A' gradd A. Er ei fod yn ffrindiau â gweddill y grwp ers dyddiau ysgol gynradd, dim ond ar ôl iddyn nhw i gyd fynd i Brifysgol Abertawe y cafodd y grŵp ei ffurfio. Yn ôl cyd-fyfyrwraig ar y pryd, doedd ganddi hi ddim syniad ei fod mewn grŵp roc - doedd dim byd yn anarferol ynddo o gwbi: "Roedd e jest fel pawb arall - yn foi iawn."

Y casgliad amwlg - ond rhy syml, efallai - yw bod yr enwogrwydd a ddaeth yn sgil rhyddhau albym cynta'r Manics yn Chwefror 1992 yn rhan o'r ateb i'r dirgelwch. Yn ôl help eu cwmni rheoli, Hall or Nothing, roedd Generation Terrorists yn codi dau fys ar gonfensiwn - "situationist slogans, glam homo-eroticism, and furious 4 real rock 'n' roll" - ac fe ddaeth y grŵp yn un o ffefrynnau hacs yr NME.

Wrth edrych yn ôl, mae'r NME wedi tynnu sylw at ddigwyddiadau fel yr adeg pan gerfiodd Richey Edwards "4 Real" mewn gwaen ar ei fraich yn ystod cyfweliad er mwyn profi ei fod e a'r grŵp o ddifri'. Yn y byd roc, mae mynd oddi ar y rêls yn rhan o'r drefn - ac roedd siocio yn ffitio strategaeth farchnata'r Manics o fod yn llais i genhedlaeth sydd wedi eu dadrithio'n llwyr.

Ond yn ôl rhai sy'n ei 'nabod yn ei gynefin - clwb TJs yng Nghasnewydd - mae Richey Edwards yn ddyn gwahanol ar lefel bersonol.

"Ro'n i'n gweld Richey o gwmpas Casnewydd bob hyn a hyn - fe oedd yr un y buasech chi'n ei gyfarfod yn y dafarn ac yn dweud: Sut mae? wrtho," meddai Andy Barding, newyddiadurwr gyda'r South Wales Echo a pherchennog label recordio a ffansîn o'r enw Frug.

"Roedd e wastad yn barod i siarad â chi ond, ar y llaw arall, mae e'n deip distaw, deallus iawn, o ddyn. Dyw e ddim yn ben bach ynglŷn â bod yn enwog. Mae'n foi 'down to earth', yn 'Gwent Valleys Lad'... ond hefyd yn enaid sensitif.

"Mae'n agored i drafodaeth os oedd yr enwogrwydd wedi effeithio arno ond doedd e ddim, yn fy marn i. Roedd e bob tro yn dangos agwedd broffesiynol. Os oedd gan y grŵp sesiwn tynnu lluniau i'w gwneud am naw o'r gloch bore, roedd e wastad yna. Roedd e'n trin y peth fel job ac yn cyflawni ei ddyletswyddau o fewn y band.

"Efallai ei fod yn sâl ond dyw e ddim yn annibynadwy. Hyd yn oed pan oedd e yn yr ysbyty y llynedd, fe fyddai'n gweithio o'i wely, yn checio gwaith celf ac yn y blaen. Mae'n rhan ganolog o'r band... gyda'r gallu i sgrifennu geiriau sydd wedi gafael yn nychymyg pobol.

"Fe fyddai Richey yn cymryd ei rôl o ddifri ond does ganddo fe ddim ego - fe fyddai'n siarad am bethau bob dydd â chi... Allwch chi ddim ond ceisio dyfalu beth oedd yn ei boeni. Mae'n ddirgelwch... Mae wedi ysgwyd y gymuned roc i lawr fan hyn, mae pobol wedi'u drysu'n llwyr. Fyddwn i ddim yn dweud bod bobol yn meddwl y gwaetha' - ond maen nhw sâl yn eu stumogau'n poeni.

"Roedd yn TJ's bob yn ail wythnos os nad oedd y grŵp yn gweithio... roedd yna rai a fyddai'n ceisio ei weindio i fyny. Ond roedd ganddo ffordd ddiniwed o ddelio â hynny: 'Pam wyt ti'n dweud hynna?'

"Ar lefel bersonol, roedd yn wahanol iawn i ddelwedd gyhoeddus y grŵp fel rebels gwrthryfelgar. Mae'n foi neis iawn - nid fel pop star o gwbwl."

Mae diflaniad Richey Edwards wedi dod fel ergyd i staff a darllenwyr yr NME fel ei gilydd. Mae'r ffans yn dal i anfon degau o lythyrau i mewn bob wythnos yn apelio am atebion. Bythefnos yn ô, roedd gan y papur stori newyddion am ferch ysgol 17 oed a Swydd Efrog a oedd wedi efelychu ei harwr ac wedi rhedeg i ffwrdd o'i charte'.

Er nad yw'r Manic Street Preachers byth yn debygol o fod mor enwog â mawrion y byd roc rhyngwladol fel U2, roedd Richey Edwards eisoes wedi datblygu'n ffocws i gwlt arbennig.

"Mae hyn yn rhan o'r broblem, meddia Iestyn George, un o newyddiadurwyr yr NME. "Yn anffodus, oherwydd ei fod yn aelod o grŵp y mae'r NME wedi dangos lot o ddiddordeb ynddo, mae'r rhan fwya' o'r cyfryngau eraill wedi anwybyddu'r peth yn llwyr, yn enwedig yng Nghymru.

"Be sy'n fy hala i'n grac yw bod hwn wedi bod yr esiampl waetha' o'r ffaith bod y wasg yn anwybyddu pobol mewn grwpiau fel hyn oherwydd nad ydyn nhw'n deall nac yn dangos diddordeb yn y diwylliant.

Mae'r Manics wedi tynnu math arbennig o bobol i'w dilyn nhw - pobol sy'n antithesis i bobol y 90au mewn ffordd, pobol introverted... yn debyg i ffans The Smiths yn yr 80au. Maen nhw'n fand sydd yn tueddu i newid bywydau grŵp cymharol fychan o bobol yn lle rhoi pleser byr i lot o bobol.

Mae'r holl bethyn drasiedi, does dim dwywaith amdai... Dwi ddim yn gwybod os taw enwogrwydd yw'r broblem. Mae bod mewn grŵp yn gallu bod yn broblem ond nid dyna'r rheswm - mae'n rhyw fath o contributing factor."

Beth bynnag yw'r ateb i'r dirgelwch, mae teulu Richey Edwards yn dai i obeithio bod yna oleuni ar ddiwedd ei dwnel personol. Yn ôl Graham Edwards, does dim pwynt ofni'r gwaetha'.

"Dydi e ddim yn gwestiwn o sut ryden ni'n teimlo - y peth pwysig yw ffeindio Richey a gweld sut mae e... ryden ni'n hydreus ei fod e mas yna yn rhywle.

"Mae dim newyddion yn newyddion da; ryden ni'n gobeithio ein bod ni'n mynd i gael galwad ffôn unrhyw ddydd nawr."


Manicmania

Pwy yw'r Manic Street Preachers?

Aelodau - James Dean Bradfield (canwr/gitâr), Sean Moore (drymiau), Nicky Wire (bâs), Richey Edwards (gitâr).

Stell - "Post punk" yw'r disgrifiad mwya' cyfleus. Yn y dyddiau cynnar, roedden nhw'n gwisgo colur rhad a blowsiau o Miss Selfridge.

Poblogrwydd - Y ddwy albym gynta' - Generation Terrorists (1992) a Gold Against The Soul (1993) wedi gwerthu dros 100,000 yr un yng ngwledydd Prydain. Eu trydedd - The Holy Bible (1994) - yn cael ei chanmol am ddychwelyd at wreiddiau'r grŵp. Ffefrynnau mewn gwyliau fel Glastonbury ac yn gallu llenwi neuaddau fel y Brixton Academy (4,000) yn hawdd.

Y Dyfodol - "Does yna ddim penderfyniad wedi cael ei wneud, fe fydd yn rhaid aros a gweld be' sy'n digwydd," meddai Gillian Porter o gwmni rheoli Hall or Nothing.

Eironi - Eu record sengl mwya' poblogaidd hyd yma yw eu fersiwn elusen yn 1992 o gân thema y rhaglen deledu MASH - 'Suicide is Painless'.

[Originally published: Golwg, 23 March 1995]

Top of the page